Description: OPCfW%20Logo

 

Ymateb oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

i

Ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

i Dlodi yng Nghymru

 

Medi 2014

 

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymateb hwn, cysylltwch â:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

Adeiladau Cambrian,

Sgwar Mount Stuart,

Caerdydd, CF10 5FL

08442 640670

 

 

 

Ynglŷn â’r Comisiynydd

 

Llais annibynnol ac eiriolwr pobl hŷn ledled  Cymru yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn sefyll eu cornel ac yn siarad ar eu rhan. Mae hi’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n fregus ac ar risg yn cael eu cadw’n ddiogel, ac mae’n sicrhau bod gan bobl hŷn lais a wrandewir arno, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig neu  y gwahaniaethir yn eu herbyn a’u bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau maent eu hangen.   Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei arwain gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy, a’u lleisiau hwy sydd wrth galon yr oll a wna.   Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn wlad dda i dyfu’n hŷn ynddi - nid dim ond i rai, ond i bawb.

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn yn:

 

·        Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethau yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl yn cael eu trin yng Nghymru.   

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

·         

 

·         

 

·         

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru

 

1.   Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Dlodi yng Nghymru [1].

 

Effeithiau tlodi, yn enwedig amddifadedd a thlodi eithafol, ar wahanol grwpiau o bobl

 

2.   Mae byw mewn tlodi yn fater allweddol ac yn bryder sy’n cynyddu i lawer o bobl hŷn yng Nghymru.   Mae’n gamsyniad meddwl nad yw’r hinsawdd economaidd heriol a’r mesurau cyni a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi effeithio ar bobl hŷn:  mae cyni yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd.

 

3.   Fel yr amlinellir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23[2], mae tlodi yn aml yn arwain at ganlyniadau iechyd gwaelach i unigolion.   Mae’n gallu cyfyngu mynediad pobl at wasanaethau ac effeithio ar eu gallu i gymryd rhan lawn yn  gymdeithas.   Mae linc glir rhwng byw ar incwm isel a gostyngiad yn  nisgwyliad oes iach.

 

4.   Yn y blynyddoedd diweddar, er bod incwm llawer o bobl hŷn wedi aros yn statig, mae pwysau cynyddol ar eu cyllid oherwydd nifer o ffactorau, yn cynnwys y cynyddiad yng nghostau nwyddau hanfodol fel bwyd a thanwydd, a chyfraddau llog hanesyddol isel ar gynilion[3].   Efallai bod ychydig o bobl hŷn wedi cael profiad o dlodi yn ystod eu dyddiau gweithio, efallai y bydd pobl hŷn eraill yn cael profiad o dlodi am y tro cyntaf o ganlyniad i incwm llai, gwaeledd, ymddeoliad, neu gostau cyfrifoldeb gofal, neu farwolaeth.   Amcangyfrifir bod 42,000 o bobl 65 oed a throsodd wedi disgyn i fwy o ddyled yn ystod y blynyddoedd diweddar [4].

 

5.   Mae’n hanfodol fod gan bobl hŷn safon incwm digonol a’u bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt yr hawl i’w cael [5]. Fodd bynnag, mae pobl hŷn ymhlith y rhai sydd â’r risg uchaf o allgau ariannol a’r rhai lleiaf tebygol o hawlio eu hawliau ariannol.   Amcangyfrifir bod 84,000 o bobl hŷn yng Nghymru (14% o’r rhai sy’n 65 oed neu drosodd) yn byw mewn tlodi [6].   Mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn byw ar incwm aelwyd wythnosol o £220 neu lai ar ôl tynnu eu costau byw.   Mae gormod o bobl hŷn yn byw mewn tlodi:  mae un adroddiad yn awgrymu bod un allan o bob pump o bensiynwyr sy’n byw ar incwm isel yn brwydro i ddal dau ben llinyn ynghyd [7].

 

6.   At hynny, amcangyfrifir bod 8% o aelwydydd hŷn  yng Nghymru (prin dan 50,000 o bobl) yn byw mewn tlodi difrifol ar £183.50 yr wythnos neu lai[8].   Mae’r bobl hŷn hyn yn byw ar incwm sefydlog ac yn brwydro i ddal dau ben llinyn ynghyd, a hynny’n effeithio’n ddifrifol ar eu hiechyd, eu llesiant a’u hannibyniaeth.   Mae tlodi pensiynwr yn tueddu i effeithio ar bobl hŷn sengl sy’n byw ar ben eu hunain yn fwy nag unrhyw grŵp arall, ac mae lefelau tlodi yn uwch ymhlith merched hŷn (85 oed neu drosodd) sy’n byw ar ben eu hunain [9].

 

7.   Mae goblygiadau byw mewn tlodi yn sylweddol ac yn bell gyrhaeddol.   Mae’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn pwysleisio bod tlodi yn hwyrach mewn bywyd yn cael ei gysylltu’n benodol â lefelau uchel o arwahanrwydd cymdeithasol, iechyd gwael, gofal cymdeithasol annigonol, tai gwael a diffyg mynediad at gyngor a chymorth ariannol da.  Rhaid i bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi wynebu ystod o sialensiau, yn cynnwys:

 

-      Penderfyniadau llwm ar ba un ai i “fwyta neu i wresogi” yn ystod misoedd hir y gaeaf:  amcangyfrifir bod 140,000 o aelwydydd hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, yn effeithio ar tua 360,000 o bobl[10].   Fel yr amlinellwyd yn fy ymateb i Ymholiad y Pwyllgor ar yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Arbed Ynni a Thlodi Tanwydd[11], rwy’n arbennig o bryderus bod tlodi tanwydd yn effeithio ar gyfradd llawer uwch o bobl hŷn yng Nghymru nac yng ngweddill y DU: gostyngodd 26% o bobl hŷn eu gwres yn ystod gaeaf 2012/13 o’i gymharu â chyfartaledd o 21%[12]yn y DU.   Mae biliau ynni yn bryder allweddol i bobl hŷn, a rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau na effeithiryn anghymesur ar bobl hŷn yng Nghymru gan ‘storm berffaith’ tlodi tanwydd, o gartrefi wedi’u hinsiwleiddio’n wael, prisiau tanwydd yn codi, incwm isel a mynediad cyfyngedig at y tanwydd rhataf a’r tariff gorau.

 

-      Mae torri’n ôl ar brynu bwyd, ar ddefnyddio ynni, ar weithgareddau cymdeithasol ac ar nwyddau yn gallu arwain at ystod o broblemau iechyd corfforol, yn cynnwys tueddiad mwy i gael arthritis a syrthio oherwydd tlodi tanwydd, a chael trawiad ar y galon a strôc oherwydd, er enghraifft, deiet gwael a llai o fynediad at weithgareddau hamdden a gweithgareddau corfforol. 

 

-      Gall torri’n ôl ar bryniadau allweddol arwain at ystod o broblemau iechyd meddwl, yn cynnwys unigrwydd, iselder, straen, gorbryder ac arwahanrwydd cymdeithasol. 

 

8.   Mae tua 90,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn ddibynnol ar fudd-daliadau y wladwriaeth yn unig, gyda mwy na hanner y bobl hŷn  yng Nghymru yn dibynnu ar Bensiwn  Gwladwriaeth o £110 yr wythnos fel eu prif incwm [13].   Nifer cymharol fychan o bobl hŷn yng Nghymru sydd â phensiwn ychwanegol o bensiwn gwaith neu bensiwn personol, gyda llai o bobl sydd yn agosáu at ymddeol yn cyfrannu at bensiwn preifat o ganlyniad i gostau byw cynyddol[14].

 

9.   Mynd i’r afael â hawliau ariannol sydd heb eu hawlio gan bobl hŷn yw’r mater allweddol i godi pobl allan o dlodi.   Ar draws y DU, amcangyfrifir bod hyd at £2.8bn o Gredyd Pensiwn (swm atodol i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth) heb ei hawlio yn  2009/10[15], ac yng Nghymru mwy na chyfanswm o £5bn o fudd-daliadau a hawliau heb eu hawlio[16]. Yng Nghymru mae Credyd Pensiwn na wnaed cais amdano yn werth £168m bob blwyddyn:  nid yw tua thraean o bobl hŷn sy’n gymwys (rhyw 94,800 o bobl) yn eu hawlio  nac yn eu derbyn.   Mae Credyd Pensiwn yn swm atodol hanfodol  i bobl sydd wedi ymddeol ac mae’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i incwm pobl hŷn, i’w hannibyniaeth a’u llesiant. 

 

10.               Byddai eu hawlio yn golygu incwm ychwanegol ar gyfartaledd o £34 yr wythnos, neu £1772 y flwyddyn, arian a allai wella bywyd llawer o bobl hyn [17].    Amcangyfrifir bod 70% o aelwydydd pensiynwyr sy’n byw mewn tlodi, ac 80% o aelwydydd sy’n bwy mewn tlodi difrifol ddim yn derbyn unrhyw un o brif fudd-daliadau y wladwriaeth e.e. Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl.   Gallai hawlio a derbyn budd-daliadau yn seiliedig ar incwm leihau tlodi ymhlith pobl hŷn o draean [18].

 

11.               Fel yr amlinellir yn y Rhaglen 2014-15[19],  rwy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i fynd i’r afael a’r mater pwysig hwn a beth ellir ei wneud i wella’r nifer sy’n derbyn  hawliau ariannol ymhlith pobl hŷn yng Nghymru, yn cynnwys y ddarpariaeth o wybodaeth a gwasanaethau cynghori, a mynd I’r afael â’r cymhlethdod ymddangosiadol o wneud cais a threchu’r  cywilydd sy’n gysylltiedig â gwneud cais am hawliau.  

 

Pa mor effeithiol y mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a strategaethau eraill y llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd

 

12.               Gwaetha’r modd, ond ychydig iawn o gyfeiriad at bobl hŷn a geir yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi 2012-16[20].   Er bod cyfeiriadau at y gwasanaethau pwysig mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno a’u cynnal i bobl hŷn, fel teithio am ddim ar fws, nofio am ddim, gofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl eraill, ychydig iawn o ystyriaeth sydd wedi’i roi i’r materion tlodi sy’n wynebu llawer o bobl hŷn yng Nghymru.   Rwy’n cydnabod y cyfeiriad at y ‘cywilydd’ sy’n rhwystro llawer o bobl hŷn rhag hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl i’w derbyn, ond nid oes unrhyw fanylion ar sut mae’r Cynllun yn bwriadu mynd i’r afael a’r mater allweddol hwn.

 

13.               Ychydig iawn o gyfeiriadau at bobl hŷn sydd i’w gweld yn yr adroddiadau dilynol i fynd a’r Cynllun Gweithredu yn ei flaen.   Rwy’n croesawu’r cyfeiriad yn ‘Creu Cymunedau Cryf’[21](Gorffennaf 2013) at edrych ar sgiliau cyflogaeth ar gyfer pobl hŷn, ac edrychaf ymlaen at weithio â Llywodraeth Cymru i fonitro’r ‘cyfran o bobl hŷn sy’n colli eu gwaith ac sy’n parhau’n ddi-waith’ fel dangosydd perfformiad allweddol.    Rwy’n croesawu hefyd y cyfeiriad at ddileu'r loteri cod post wrth godi tâl am ofal cartref trwy ‘Talu am ofal’[22],  a’r fframwaith ar gyfer integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn.  Fodd bynnag, mae Adroddiad Blynyddol Cynllun Trechu Tlodi 2014[23]  yn gwneud ychydig iawn o gyfeiriad at y materion tlodi sy’n effeithio ar lawer o bobl hŷn ledled Cymru. 

 

14.               Blaenoriaeth allweddol yn fy Fframwaith Gweithredu 2013-17[24]  yw gwreiddio llesiant pobl hŷn wrth galon gwasanaethau cyhoeddus.   Dylai llesiant, sy’n gyfystyr i ansawdd bywyd i bobl hŷn, yrru  cynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn eu blaen.   Mae anghenion pobl hŷn yn berthnasol i holl adrannau a phortffolios llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru:  nid ydynt wedi’u cyfyngu i iechyd a gofal cymdeithasol.   Rwy’n cytuno â datganiad yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-16[25]  mai dimensiwn allweddol i gyflawni llesiant yw cymryd camau yn erbyn tlodi.  Er mwyn sicrhau bod gan fywydau pobl hŷn werth, ystyr a phwrpas, mae mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd tlodi yn hanfodol. 

 

15.               Bydd y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a amlinellir yng Nghynllun Trechu Tlodi yn edrych ar dlodi pensiynwyr.   Gwaetha’r modd, mae’r Cynllun Gweithredu yn gyfle wedi’i golli i fynd i’r afael a’r achosion sydd wrth wraidd tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru.   Nid yw’r posibilrwydd o weithredu dyletswydd cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol i Gymru, fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ymdrin yn ddigonol â phobl hŷn[26]. Ystyrir yn aml fod pobl hŷn yn imiwn o anghydraddoldeb economaidd-cymdeithasol: mae pobl hŷn sydd yn gweithio fodd bynnag yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan gyflwyniad Credyd Unedig, tra bo’r ffaith fod 42% o bobl 50 oed a hŷn yng Nghymru wedi’u halltudio’n ddigidol sy’n golygu eu bod yn talu mwy am nwyddau a chynnyrch all-lein a llai o fynediad i hawlio a gwasanaethau ariannol ar-lein[27]. Fel yr argymhellwyd eisoes i Lywodraeth Cymru[28], mae unrhyw symudiad tuag at ymagwedd unedig strategol i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol a thrafod anghydraddoldeb yn gorfod ateb anghenion pobl hŷn yn gyflawn, wedi’i atgyfnerthu gan werthuso a monitro cadarn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar unrhyw ddeddfwriaeth cydraddoldeb a ddatganolir er mwyn adeiladu ar yr ymrwymiad at gydraddoldeb[29], gan gynnwys dyletswydd economaidd-gymdeithasol sydd yn adlewyrchu’n llawn yr holl faterion sydd yn wynebu pobl hŷn.

16.               Mae angen mwy o fanylion er mwyn deall yn well sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, yn cynnwys camau wedi’u targedu i helpu pobl hŷn sy’n byw ar incwm isel iawn.

 

Sut y mae deddfwriaeth, polisïau a chyllidebau  sydd wedi’u targedu at drechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb yn cael eu cydgysylltu a’u blaenoriaethu ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru

 

17.               Nid oes digon o gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru ar sut i drechu tlodi ymhlith pobl hŷn.   Ni ddylid cyfyngu’r mater i bortffolio Cymunedau a Threchu Tlodi:  mae’n cynnwys er enghraifft:

-      Adnoddau Naturiol:   sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o gynlluniau effeithlonrwydd ynni i drechu tlodi tanwydd;

-      Llywodraeth Leol, Diwydiant a Chwaraeon;  gwarchod a gwella gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus cost effeithiol sy’n rhoi gwerth, ystyr a phwrpas i fywydau pobl hŷn;

-      Addysg a Sgiliau:  mwy o gyfleoedd dysgu a sgiliau i wella rhagolygon gwaith i bobl hŷn, cyfleoedd dysgu a mynediad at wasanaethau digidol a gwasanaethau ariannol;

-      Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:   darpariaeth ddigonol o deithio am ddim ar fws yn cael ei ategu gan gynllun trafnidiaeth gymunedol i gyflenwi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a sgiliau a gwasanaethau allweddol.   

 

18.               Fel mater heb ei ddatganoli, dylai wella incwm pobl hŷn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, ac mae angen cydgysylltu clos, nid ar draws adrannau Llywodraeth Cymru’n unig, ond hefyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   Mae strategaeth a dull cydgysylltiedig rhwng y ddwy Lywodraeth yn hanfodol i drechu tlodi pensiynwyr yng Nghymru[30].

 

19.               Fel y pwysleisiais yn fy Nghynllun Cydraddoldeb Strategol wedi’i Gloywi 2012-16[31], mae nifer o ffactorau a allai gydgyfeirio i achosi tlodi yn hwyrach mewn bywyd.  Nid yw maint a natur profiad pobl hŷn o dlodi  yn aml yn cael ei werthfawrogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   Nes bydd y syniad camsyniol bod pobl hŷn yn rhydd o sialensiau’r hinsawdd economaidd bresennol a rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU, bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn parhau ar risg sylweddol o fyw eu blynyddoedd olaf yn eithriedig ac yn dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd cymdeithasol. 



[1] http://www.senedd.assemblywales.org/documents/s29421/Consultation%20letter.pdf

[2] http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?lang=en

[3] http://www.ageuk.org.uk/PageFiles/41168/Life%20on%20a%20low%20income%20-%20FINAL%20-%20E.pdf?dtrk=true

[4] http://www.ageuk.org.uk/PageFiles/41168/Life%20on%20a%20low%20income%20-%20FINAL%20-%20E.pdf?dtrk=true

[5] http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?lang=en

[6] http://www.ageuk.org.uk/PageFiles/41168/Life%20on%20a%20low%20income%20-%20FINAL%20-%20E.pdf?dtrk=true

[7] http://41ydvd1cuyvlonsm03mpf21pub.wpengine.netdna-cdn.com//wp-content/uploads/2012/06/final-report-13.06.12.pdf

[8] Relative poverty defined as households with an income below 60% of the median UK household income. UK poverty line is £220 per week, severe poverty line is £183-50

[9] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/130521olderpeoplestrategyen.pdf

[10] http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?lang=en

[11]http://www.senedd.assemblywales.org/documents/s28592/EEFP%2016%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[12] http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/age-cymru-warns-pensioner-cutbacks-3567028

[13] http://www.consumerfocus.org.uk/wales/files/2010/10/older_peoples_finances-FOR-WEB-2.pdf

[14]http://www.agealliancewales.org.uk/admin/content/files/Age%20Alliance%20Wales%202014%20report%20Final.pdf

[15] http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-press/archive/pension-credit-unclaimed/

[16] http://www.ageuk.org.uk/money-matters/claiming-benefits

[17] http://www.ageuk.org.uk/PageFiles/41168/Life%20on%20a%20low%20income%20-%20FINAL%20-%20E.pdf?dtrk=true

[18] http://www.bevanfoundation.org/publications/poverty-and-social-exclusion-in-wales-2/

[19] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-07-25/Work_programme_2014-15.aspx

[20] http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/socialjustice/120625tackpovplanen.pdf

[21] http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/socialjustice/130703takeforpovactplanen.pdf

[22] http://wales.gov.uk/topics/health/socialcare/care/?lang=en

[23] http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/140702-action-plan-annual-report-14-en.pdf

[24] http://www.olderpeoplewales.com/en/news/news/13-05-23/Framework_for_Action.aspx

[25] http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/120405sepfinal.pdf

[26]http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/Refreshed_Strategic_Equality_Plan_English_1.sflb.ashx 

[27] Cynllun Darparu Cynhwysiad Ddigidol Llywodraeth Cymru 2014 (fersiwn drafft)

[28] http://www.equalityhumanrights.com/sites/default/files/documents/Wales/wg_advice_final.pdf

[29] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/130521olderpeoplestrategyen.pdf

[30] http://www.cardiff.ac.uk/socsi/resources/PovertySocialExclusioninWales.pdf

[31] http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/strategic_equality_plan_En.sflb.ashx